Prif Weinidog: Toriadau cyllideb 'yn argyfwng'
Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau sut y mae'n bwriadu mynd ati i arbed miliynau o bunnau dros y misoedd nesaf.
Er mwyn llenwi bwlch ariannol cyn mis Ebrill nesaf, mae gweinidogion Mark Drakeford wedi gorfod canfod dros £600m.
Mae £220m yn dod o doriadau gwariant gwahanol adrannau'r llywodraeth gan gynnwys bron i £75m o rannau o'r gyllideb addysg a'r iaith Gymraeg, tra bod o leiaf £100m yn dod o gronfa arian wrth gefn.
Ond fe fydd mwy o arian yn cael ei wario mewn dau faes penodol - £400m ychwanegol ar gyfer y gwasanaeth iechyd a £125m i gadw trenau Cymru i fynd.
Wrth gael ei holi ar raglen Newyddion S4C fe amlinellodd y Prif Weinidog pa mor ddifrifol yw'r sefyllfa ariannol erbyn hyn.