'Fi yw'r unig drag queen sy'n perfformio rownd fan hyn'
"Cyn i fi ddechrau perfformio mewn drag o'n i yn poeni sut fydda' bobl yn ymateb - yn enwedig yn Llanbed - ond bellach rwy'n teimlo fel fy mod i ar grwsâd i ddod â drag i gefn gwlad Cymru."
Tair blynedd yn ôl wrth i'r pandemig ddod â chymdeithas i stop roedd Chris Jones, mab fferm o ochrau Llanbedr Pont Steffan, yn brysur yn newid ei fywyd.
Roedd Chris yn ddilynwr brwd o raglen deledu Ru Paul's Drag Race, lle mae perfformwyr drag o bob cwr o Brydain yn cystadlu yn erbyn ei gilydd.
Cafodd yr athro dawns 26 oed ei ysbrydoli gan y rhaglen i greu persona cwbl newydd ei hun - Serenity.
Yn ôl Chris, er bod agweddau negyddol yn dod i'r amlwg mewn cymunedau gwledig o dro i dro, mae'r ymateb i Serenity yng nghefn gwlad Ceredigion wedi bod yn gadarnhaol ar y cyfan.