Recriwtio staff rhan amser yn broblem i Gylchoedd Meithrin

Mae angen amddiffyn y sector gofal plant rhag toriadau, yn ôl Prif Weithredwr Mudiad Meithrin.

Yn ôl Dr Gwenllian Lansdown Davies, mae'r maes yn un sydd wedi cael ei "dan-ariannu ers blynyddoedd" ac wedi wynebu her recriwtio "ers degawdau".

Mae pryderon y gallai'r sefyllfa waethygu gyda thoriadau arfaethedig Llywodraeth Cymru.

Fe ddaw sylwadau Ms Davies wedi i Lywodraeth Cymru gyhoeddi y byddai'r sector, fel sawl un arall, yn wynebu toriadau.

Dyw union fanylion y toriadau ddim yn glir eto.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, maen nhw'n cydnabod ac yn gwerthfawrogi gwaith pwysig y sector gofal plant wrth gefnogi plant a theuluoedd.

Dywed Gwawr Evans, cadeirydd Cylch Meithrin Pontrhydfendigaid, mai recriwtio staff rhan amser sy'n achosi'r benbleth fwyaf.

"Os oes salwch gyda'r staff, yn anffodus falle ni'n gorfod cau yn y prynhawn neu mae rhai aelodau o'r pwyllgor yn gorfod dod mewn i helpu. Felly ydy, mae yn her ar hyn o bryd."