Trafferth beichiogi: 'Caled mynd trwy hynna mis ar ôl mis'
Dydy'r gefnogaeth i bobl sy'n ceisio beichiogi "ddim yn ddigon da, o bell ffordd" yn ôl aelod o Senedd Cymru.
Mae Fertility Network UK yng Nghymru yn dweud bod angen mwy o gefnogaeth ar bobl sy'n wynebu "blynyddoedd o unigrwydd".
Yn ôl un fam o Sir Gâr - a wynebodd flynyddoedd anodd cyn cael IVF llwyddiannus - roedd hi'n byw o un mis i'r llall gan deimlo'n unig.
Fe wynebodd Hawys Barrett, 38, flynyddoedd anodd wrth geisio beichiogi, cyn dechrau triniaeth IVF yn 2019.
Cafodd driniaeth lwyddiannus, ac mae ei mab Mabon yn dair oed erbyn hyn.
Mae'n rhannu ei stori er mwyn tynnu sylw at yr heriau yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Ffrwythlondeb.
Dywedodd Llywodraeth Cymru fod tri chlinig ffrwythlondeb yng Nghymru sy'n cynnig gwasanaethau cwnsela i gleifion y gwasanaeth iechyd.