Storm Ciarán yn boddi maes carafanau yn Ninbych-y-pysgod
Mae yna rybudd bod llifogydd yn bosib unrhyw le ar draws Cymru ddydd Iau yn sgil oriau o gawodydd trwm wrth i Storm Ciaràn daro'r wlad.
Mae rhybudd melyn am law mewn grym ym mhob rhan o Gymru tan 23:59 nos Iau, a rhybudd melyn am wynt cryf yn weithredol yn y de tan 17:00.
O'r holl rybuddion llifogydd sydd mewn grym, dolen allanol, y mwyaf difrifol yw'r rhybudd coch ar lannau Afon Ritec yn Ninbych-y-pysgod, ble bu'n rhaid i gannoedd o bobl adael maes carafanau ddydd Mercher.
Dywedodd Ioan Williams, rheolwr gweithrediadau gyda Chyfoeth Naturiol Cymru, bod "rhyw 800 o bobl wedi symud mas" o'r barc gwyliau Kiln Park.
Lluniau Jon Lewis