Ni ddylai pobl ifanc 'gyfyngu eu hunain i Gymru'
Mae pryderon wedi codi eto am nifer y bobl ifanc sy'n gadael Cymru i gael addysg neu waith, ac yna ddim yn dychwelyd.
Yn ôl ffigyrau diweddaraf y Swyddfa Ystadegau Gwladol, mae mwy o awdurdodau lleol yng Nghymru wedi gweld pobl rhwng 18 a 29 oed yn symud i ffwrdd dros y degawd diwethaf.
Mae'r twf ym mhoblogaeth Cymru hefyd yn arafu, ac mae diffyg swyddi a thai ymysg y prif ffactorau sy'n achosi'r sefyllfa.
Yn ôl un o Aelodau Ceidwadol o'r Senedd, Sam Kurtz, mae angen buddsoddi yn swyddi'r dyfodol er mwyn mynd i'r afael â'r broblem.
Ac ym marn un o sylfaenwyr cwmni sy'n ceisio atal yr hyn sy'n cael ei alw'n brain drain, mae anwybodaeth ynghylch cyfleoedd yng Nghymru wedi cyfrannu at y sefyllfa.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn gwneud popeth o fewn eu gallu i helpu pobl ifanc i gynllunio'u dyfodol yng Nghymru.
Mae Dafydd Hedd - yn wreiddiol o Fethesda, Gwynedd - yn ei drydedd flwyddyn yn astudio economeg ym Mhrifysgol Bryste.
Dywed na ddylai pobl ifanc "gyfyngu eu hunain" i Gymru, ac mae'n cydnabod bod sefyllfa ariannol yn ffactor.