Creu llyfrau arbennig i helpu plant ymdopi â galar
Mae brawd a chwaer o Sir Benfro wedi creu llyfrau arbennig i helpu plant a phobl ifanc ymdopi â galar ar ôl colli rhiant.
Mae Mali a Trystan wedi cynhyrchu'r llyfrau arbennig yma ar ôl iddyn nhw golli eu tad, Daniel.
Pan fu farw, fe wnaeth mam Mali a Trystan, Emma, benderfynu sefydlu elusen y DPJ Foundation, sy'n cynnig cymorth i bobl sy'n byw yng nghefn gwlad.
Jacob Morris aeth i siarad â'r brawd a chwaer ar ran Newyddion S4C.