Fflyn Edwards yn sôn am actio rhan Tywysog Harry yn The Crown

Mae actor ifanc o Sir Gâr wedi disgrifio'r profiad o bortreadu un o aelodau'r Teulu Brenhinol yn un o gyfresi drama mwyaf llwyddiannus y byd.

Mae The Crown ar fin dychwelyd i'r sgrin ar blatfform Netflix a Fflyn Edwards, 14, sydd yn chwarae rhan y Tywysog Harry ifanc.

Gyda'r gyfres newydd - y chweched a'r olaf - yn olrhain marwolaeth ac angladd y Dywysoges Diana, fel fydd Fflyn i'w weld yn rhai o olygfeydd mwyaf cofiadwy chwarter canrif olaf teyrnasiad y diweddar Frenhines Elizabeth.

Roedd bod oddi cartref, meistrioli acen y tywysog ac ymdopi â'r wig y bu'n rhaid ei gwisgo - yn enwedig yng ngwres Sbaen - oll yn anodd, meddai'r actor 14 oed o Gwm Gwendraeth.

Ond roedd gweithio gydag actorion mor brofiadol ag Imelda Staunton a Dominic West yn "brofiad anhygoel".