Beth yw Cerdd Dant?

Efallai y byddwch yn clywed mwy o sôn am 'gerdd dant' yn ystod y dyddiau nesaf wrth i'r Ŵyl Cerdd Dant gael ei chynnal yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn.

Ond beth yn union yw cerdd dant?

Yn y bôn, llefaru ar gân yw'r grefft.

Y geiriau sy'n bwysig mewn cerdd dant a champ y perfformiwr yw i ddehongli'r geiriau.

Y delyn, sef offeryn cenedlaethol Cymru, sy'n cyfeilio ac yn chwarae darn o gerddoriaeth sef y gainc.

Yna bydd y perfformiwr yn ymuno â'r delyn ond yn canu alaw wahanol iawn. Bydd y ddau - y delyn a'r perfformiwr - yn gorffen gyda'i gilydd.

Darllenwch fwy i weld beth yw'r 10 trac cerdd dant mwyaf hanfodol!