Cyn-filwr, 101, yn cofio'i ran ym Mrwydr yr Iwerydd

Bydd yna funudau o dawelwch ar draws y wlad ddydd Sadwrn - Diwrnod y Cadoediad - a dydd Sul - Sul y Cofio - er teyrnged i'r rhai a gafodd eu lladd neu eu hanafu mewn rhyfeloedd ar draws y byd.

"Lwc - 'na pam fi 'ma heddi," medd Neville Bowen, 101, o Rydaman, wrth gofio pa mor agos y daeth torpido at daro'r llong yr oedd yn gwasanaethu arni gyda'r Llynges Frenhinol yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Roedd yn rhan o'r ymdrech i amddiffyn llongau masnach ar Fôr Iwerydd ac fe welodd nifer o longau'n suddo.

Roedd hefyd yn rhan o Frwydr yr Iwerydd, a bu'n rhannu rhai o'i atgofion yn ystod digwyddiad ar gyfer cyn-filwyr ym Myddfai.