Gwastraff plastig yn 'broblem enfawr sy'n mynd yn waeth'
Mae'r byd yn wynebu argyfwng pan mae'n dod i wastraff a llygredd plastig, yn ôl gweithiwr elusen o Gymru.
Mae Mari Williams, sy'n uwch ymgynghorydd polisi gydag elusen Tearfund, yn dweud bod sefyllfa o amgylch y byd yn "ofnadwy".
"Ar hyn o bryd mae tua dau biliwn o bobl yn byw heb fynediad at reolaeth gwastraff - dim fel chi a fi yn gallu rhoi ein bins allan bob wythnos, ac mae'r lori'n dod i gymryd y gwastraff i ffwrdd," meddai.
"Maen nhw'n gorfod byw yn ei ganol o, heb unrhyw ddewis ond i dumpio neu losgi eu gwastraff nhw, ac mae hyn yn creu problemau enfawr i iechyd ac i'r amgylchedd."
Daw rhybudd Tearfund, wrth iddyn nhw baratoi i ymuno â chynrychiolwyr o wledydd y byd mewn cynhadledd arbennig i drafod sut mae mynd i'r afael a gwastraff plastig.