'Mae'n bwysig i filwyr heddiw gofio'r rhai fu farw'

Mae gwasanaethau wedi cael eu cynnal ar draws Cymru i gofio aberth y rhai a fu farw neud a gafodd eu hanafu yn ystod rhyfeloedd ar draws y byd.

Roedd yna ddau funud o dawelwch am 11:00 i anrhydeddu cyfraniad y rhai a wasanaethodd yn y ddau ryfel byd a rhyfeloedd ers hynny.

Ymunodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford â'r gwasanaeth wrth y Gofeb Ryfel Genedlaethol yng Nghaerdydd.

Ond roedd yna wasanaethau tebyg ym mhob ran o Gymru, gan gynnwys yng Nghaernarfon.

Un o'r rhai oedd yn fanno i dalu teyrnged oedd Sion Prysor Williams.