Bwriad i droi capel yn gaffi a fflatiau fforddiadwy

Mae gwaith wedi dechrau i drawsnewid hen gapel yn Sir Benfro i fod yn ganolfan dreftadaeth, caffi a fflatiau fforddiadwy.

Gyda chymorth ariannol o £21,000 drwy brosiect Perthyn Llywodraeth Cymru, y nod yw datblygu hen gapel Hermon er budd y gymuned.

Mae'r gymuned ar fin prynu'r adeilad, a bellach wedi penodi swyddogion prosiect, wedi creu cynlluniau pensaernïol ac wedi cynnal archwiliadau safle.

Dywedodd Cris Tomos - cydlynydd Prosiect Perthyn - ei bod hi "mor bwysig bod cymunedau lleol yn cael y cyfle i gadw a defnyddio asedau lleol ar gyfer mentrau lleol".