Lluniau: Dathliadau Diwali yng Nghaerdydd
- Cyhoeddwyd
Rhwng 9-13 Tachwedd bu'r gymuned Hindŵ yng Nghymru'n dathlu gŵyl Diwlai. Cafodd cyfres o seremonïau eu cynnal dros y penwythnos, gyda'r pinacl yn dod ar Ddydd Llun, 13 Tachwedd.
Mae'r ŵyl yn symboleiddio buddugoliaeth daioni dros ddrygioni, goleuni dros dywyllwch, ac mae lampau'n cael eu goleuo fel arwydd o obaith i ddynoliaeth.
Teml Shri Swaminarayan Mandir yn ardal Grangetown, Caerdydd, yw'r deml Hindŵ hynaf a'r fwyaf yng Nghymru. Mae'r lluniau isod yn nodi'r digwyddiadau yn y deml dros ddyddiau gŵyl Diwali eleni.