Eryri: 'Defnyddio enwau Cymraeg ar lafar gwlad'

Mae disgwyl i Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri safoni cannoedd o enwau llynnoedd mewn ymgais i ddiogelu enwau Cymraeg cynhenid.

Dros y blynyddoedd mae enwau Saesneg answyddogol wedi dechrau cael eu defnyddio i adnabod rhai o lynnoedd y parc.

Mae'r rhain yn cynnwys Lake Australia (Llyn Bochlwyd), Bearded Lake (Llyn Barfog) a Bala Lake (Llyn Tegid).

Yn ôl Naomi Jones, Pennaeth Treftadaeth Ddiwylliannol Parc Cenedlaethol Eryri, mae'r parc yn gobeithio ehangu'r gwaith ar y cyd hefo Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg i gynnwys tirweddau eraill Eryri dros y blynyddoedd i ddod.

"Y gobaith yw fydd yr enwau hyn yn cael eu defnyddio ar fapiau yn eang a hynny, yn ei dro, yn rhoi mwy o gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r enwau ar lafar gwlad," meddai.

"Mae hynny ynddo'i hun yn rhan holl, hollbwysig yn y ffordd 'da ni'n defnyddio enwau lleoedd ac yn addysgu pobl amdanyn nhw."