Dyma sut mae archwilio eich ceilliau
Mae 'na alw ar i bobl beidio teimlo cywilydd wrth drafod canser y ceilliau, ac i bobl archwilio eu hunain yn gyson wrth ddilyn cyngor meddygol.
Daw wrth i ddyn 34 oed o Gaerdydd, sydd wedi cael canser y ceilliau ddwywaith, ddweud bod "tabŵ" yn dal i fod ynghylch y math o ganser.
Cafodd Iwan Williams ei ddiagnosis cyntaf pan oedd yn yr ysgol, ond eleni - rai misoedd ar ôl priodi - fe ddaeth o hyd i lwmp arall.
Dywedodd y meddyg teulu Dr Llinos Roberts: "Y peth pwysig ydy os 'dyn ni'n dal y canser yma'n gynnar, yna mae'r prognosis yn llawer, llawer gwell.
"Wrth archwilio, fe fydden i'n defnyddio'r bawd a'r ddau fys. Rhoi bawd o flaen y caill, dau fys tu ôl y caill, a rolio'r caill rhwng y bysedd wedyn.
"Archwilio'r arwynebedd a gwneud yn siŵr nad oes unrhyw newidiadau."