Sera Cracroft: 'Pwysig siarad' am ei phrofiad cam-drin

Mae un o actorion mwyaf blaenllaw Cymru wedi rhannu, am y tro cyntaf, ei phrofiad o gael ei cham-drin yn rhywiol yn blentyn ifanc.

Mae Sera Cracroft, sydd wedi chwarae rhan Eileen ar Pobol y Cwm ers 1989, yn dweud ei bod hi wedi rhannu'r hanes ar raglen Sgwrs Dan y Lloer, dolen allanol ar S4C er mwyn helpu eraill.

Mae Sera, sydd bellach yn fam i dri ac yn 57 oed, yn rhannu ei bod hi wedi dioddef gyda chyflwr PTSD o ganlyniad i'r ymosodiad pan oedd hi'n "bump neu chwech oed".

Wedi blynyddoedd lawer o gadw'r profiad yn gyfrinachol, fe waethygodd iechyd meddwl Sera yn sylweddol yn oedolyn.

Bu hi'n rhannu ei stori gydag Alun Thomas ar gyfer BBC Radio Cymru.

Os yw cynnwys yr erthygl hon wedi effeithio arnoch, mae gwybodaeth a chefnogaeth ar gael ar wefan Action Line y BBC.