Cefnogwr Cymru'n rhannu ei brofiad yn Armenia

Mae cefnogwr pêl-droed Cymru wedi dweud y bu'n ofni am ei fywyd ar ôl cael ei herio gyda gwn gan heddlu yn Armenia.

Cafodd dros 30 o gefnogwyr Cymru eu harestio yn y brifddinas Yerevan dros y penwythnos.

Dywedodd Gerwyn Williams, o Benygroes yng Ngwynedd, iddo gael ei arestio "am ddim rheswm o gwbl" gan yr heddlu yno.

Ychwanegodd ei fod wedi ei gadw yn y ddalfa am 12 awr heb unrhyw fwyd na dŵr, a gan ei fod mor ofnus fe wnaeth e hedfan adref cyn gêm Cymru nos Sadwrn.

Mae Llysgenhadaeth Armenia wedi cael cais am sylw.

Bu Gerwyn yn rhannu ei brofiadau gydag Elen Wyn ar ran Newyddion S4C.