Gwrandewch: John Meredith yn darlledu'n fyw ar Concorde

Dydd Sul, fe fydd hi'n union 20 mlynedd ers i awyren uwchsonig Concorde wneud ei thaith fasnachol olaf.

Roedd hynny'n dilyn damwain un o awyrennau Concorde cwmni Air France ychydig flynyddoedd ynghynt, pan gafodd 109 o bobl eu lladd.

Un fuodd ar daith Concorde a darlledu'n fyw o'r cockpit ar Radio Cymru yw'r cyn-ohebydd John Meredith.

Bu John Meredith yn gwrando 'nôl ar y foment honno ac yn hel atgofion am y "profiad cwbl anhygoel" ar Dros Frecwast fore Gwener.