Pryder am effaith sefyllfa S4C ar y diwydiant teledu
Mae Cadeirydd Teledwyr Annibynnol Cymru (TAC) yn dweud bod sefyllfa S4C yn ofid mawr i'r diwydiant yn ehangach.
Daw'r sylw yma wedi i brif weithredwyr y sianel, Siân Doyle, gael ei diswyddo yr wythnos diwethaf yn dilyn ymchwiliad i honiadau o fwlio a "diwylliant o ofn" o fewn y sefydliad.
Dywedodd Dyfrig Davies "does neb moyn gweld math yma o sefyllfa, a dwi'n hyderus, gyda phobl brofiadol ar y bwrdd y byddan nhw yn edrych ar eu llywodraethant".
Dywedodd fod y sefyllfa yn cael effaith ar y sector yn ehangach: "O ran darlledwyr 'da ni'n edrych ymlaen at y flwyddyn nesa' a'r flwyddyn wedyn o ran sicrhau cyflogaeth staff o fewn y sector annibynnol ond hefyd i sicrhau'r cynnwys gorau hefyd."
Ychwanegodd fod angen cael "llywodraethant sy'n effeithiol ac sy'n gofalu bod gwerth am arian - arian cyhoeddus - yn bodoli".
"'Da ni'n cydymdeimlo efo pawb sydd wedi eu heffethio ond rhaid cofio hefyd am bwysigrwydd S4C fel sefydliad o safbwynt parhad yr iaith a'n diwylliant. A dwi'n gwybod ein bod i gyd yn awyddus i S4C barhau i lwyddo.
"Rhaid dod at ein gilydd i gydweithio a symud ymlaen yn bositif i'r dyfodol."