Synwyryddion yn atal disgyblion rhag fepio yn yr ysgol
Mae rhai ysgolion wedi gorfod gweithredu er mwyn atal disgyblion rhag fepio yn ystod oriau ysgol.
Fe ddywedodd rhai athrawon eu bod am weld cyfreithiau llymach i atal pobl ifanc rhag cael gafael ar e-sigarennau.
Mae Ysgol Cwm Brombil ym Mhort Talbot yn un o'r ysgolion sydd wedi cymryd camau yn sgil yr "epidemig" fepio o fewn cymdeithas.
Dywedodd y dirprwy bennaeth, Eurig Thomas, bod yr ysgol wedi gosod synwyryddion yn y toiledau er mwyn atal plant rhag gadael gwersi i fepio ac mae'r rhain wedi "atal y mwyafrif rhag cymryd y risg o gael eu dal".