Carchardai Cymru: 'Rhywbeth sylfaenol o'i le'

Dylai carchardai Cymru, sy'n "llawn problemau", ddod o dan reolaeth Llywodraeth Cymru ym Mae Caerdydd, medd Plaid Cymru.

Wrth gyflwyno dadl o blaid datganoli'r system gyfiawnder ger bron Aelodau Seneddol ar lawr Tŷ'r Cyffredin ddydd Mercher dywed AS Dwyfor Meirionnydd, Liz Saville Roberts y byddai datganoli yn gymorth i ddelio gyda charchardai "gorlawn", lle mae cyfradd uchel o gyffuriau a hunanladdiadau.

Dywed hefyd ei bod yn hynod bryderus bod nifer y rhai sy'n cysgu ar y stryd wedi iddyn nhw ddod allan o'r carchar wedi treblu mewn cyfnod o bron i flwyddyn.

Pryder arall, meddai ar Dros Frecwast, yw bod nifer o'r carcharorion sydd yng ngharchardai Cymru yn dod o Loegr.

Mae "rhywbeth sylfaenol o'i le", ychwanegodd.

Mae'r Gwasanaeth Carchardai yn dweud bod y "ffigyrau a'r arolygon diweddaraf yn dangos bod carchardai Cymru yn perfformio'n dda".