'Amodau anodd iawn' i weithio ynddynt yn S4C

Mae adroddiad hir ddisgwyliedig i honiadau o fwlio o fewn S4C wedi'i gyhoeddi.

Cafodd cwmni cyfreithwyr Capital Law eu comisiynu i gynnal adroddiad ar yr amgylchedd waith a'r amgylchedd o fewn y sianel.

Mae'r dystiolaeth dderbyniodd yr adroddiad yn cynnwys honiadau bod cyn-brif weithredwr y sianel yn ymddwyn mewn modd "unbenaethol" ac yn creu diwylliant o ofn.

Cafodd Siân Doyle ei diswyddo gan Awdurdod S4C fis Tachwedd. Mae hi wedi beirniadu'r penderfyniad.

Dywedodd Ms Doyle bod yr adroddiad yn ei "thristáu" a'i bod "ddim yn adnabod na derbyn yr honiadau a wnaed".

Yn siarad gyda rhaglen Newyddion S4C dywedodd Elin Lenny, oedd yn arfer gweithio fel swyddog y wasg i S4C, fod gadael y sianel "wedi bod yn benderfyniad anodd".

Dywedodd ei bod yn caru'r swydd i ddechrau, ond mai "buan iawn 'naeth yr awyrgylch newid yno" a bod pethau "wedi mynd yn sur iawn", gyda "amodau anodd iawn" i weithio ynddynt erbyn diwedd ei chyfnod yno.