Aelodau bwrdd S4C 'yn ddall i'r sefyllfa'
Wrth ymateb i adroddiad cwmni Capital Law, ar honiadau o fwlio yn S4C fe ddywedodd y bargyfreithiwr Winston Roddick, sydd hefyd yn gyn-aelod o fwrdd S4C, bod aelodau presennol y bwrdd "wedi bod yn ddall" i'r sefyllfa.
Dywedodd fod y "gadwyn rhwng y bwrdd a'r prif weithredwr yn sylfaenol bwysig i effeithiolrwydd y bwrdd ac i effeithiolrwydd y gweinyddwyr".
Dywedodd hefyd ei bod hi'n "bosib datrys y problemau drwy gymryd camau yn ymwneud â rheolaeth".
Doedd S4C ddim am ymateb i'w sylwadau.