'Pwysig iawn clywed am Butetown yn gwneud gwaith da'

Mae clwb pêl-droed a ddaeth i frig pencampwriaeth Somali Prydain yn gobeithio herio camsyniadau am eu milltir sgwâr yng Nghymru. 

"Mae pobl tu fas i Dre-biwt yn meddwl, 'dyw Tre-biwt ddim yn dda... maen nhw'n aggressive, just lot o stereotypes," medd Nooh Ibrahim o'r Cardiff Bay Warriors. 

Mae'r tîm am i'w llwyddiant "ddangos Tre-biwt mewn golau positif".

Ar ôl ennill cynghrair Somali Prydain yn 2022 - y clwb Cymreig cyntaf i wneud hynny - eu nod nawr ydy codi trwy haenau'r gamp yng Nghymru.