Pysgotwr yn cael ei achub gan yr RNLI a'r cyhoedd

Mae pysgotwr fu bron â marw ar ôl cael ei lusgo i'r môr wedi diolch i'r rheiny fu'n gyfrifol am ei achub mewn aduniad emosiynol.

Cafodd Mike Hall ei ddal gan y llanw tra'n pysgota yn aber Afon Ogwr ger Porthcawl yn Hydref 2019, ac fe gafodd ei daro'n anymwybodol tra'n cael ei dynnu i'r môr.

Llwyddodd aelodau'r cyhoedd i'w dynnu o'r dŵr, cyn i griw bad achub yr RNLI gyrraedd a rhoi triniaeth iddo.

Fe gafodd ei roi mewn coma am ddyddiau wedi'r digwyddiad, ond mae bellach wedi gwneud gwellhad llawn.

Gwyliwch fideo o'r foment y cafodd ei achub gan griw yr RNLI a'r cyhoedd.