Amseru cyhoeddiad Mark Drakeford yn 'dipyn o syndod'
Mae'n debyg mai'r Etholiad Cyffredinol Prydeinig yw'r rheswm tu ôl i benderfyniad Prif Weinidog Cymru i gamu o'r neilltu fel arweinydd Llafur Cymru.
Dyna ddadansoddiad Golygydd Materion Cymreig BBC Cymru, Vaughan Roderick, sy'n dweud fod amseru cyhoeddiad Mark Drakeford yn "dipyn o syndod".
Fore Mercher fe gyhoeddodd Mr Drakeford ei fwriad i adael, ond bydd yn parhau yn ei rôl fel Prif Weinidog tan y bydd ei olynydd yn cael ei benodi.
Ychwanegodd ei fod yn ffyddiog y bydd y broses i ddod o hyd i'w olynydd fel arweinydd Llafur Cymru yn gorffen cyn y Pasg.
Mae dyfalu parhaus am pryd y bydd y Prif Weinidog Rishi Sunak yn galw'r etholiad cyffredinol nesaf.
Mae'n rhaid cynnal yr etholiad cyn 28 Ionawr 2025, gyda'r tebygolrwydd y bydd yn cael ei chynnal rhywbryd yn ystod 2024.