Fideo teledu cylch cyfyng o ffrwydrad Trefforest

Mae un person yn parhau ar goll wedi tân mawr ar stad ddiwydiannol Trefforest ger Pontypridd.

Cafodd tri pherson fân anafiadau a chafodd o leiaf un adeilad ei ddinistrio.

Cafodd "digwyddiad difrifol" ei gyhoeddi yn dilyn y ffrwydrad tua 19:00 nos Fercher.

Dywedodd pobl yn yr ardal eu bod wedi clywed ffrwydrad anferth.

Fore Iau, dywedodd Gwasanaeth Tân y De fod y tân yn parhau ynghyn a bod diffoddwyr yn parhau i geisio ei reoli.

Cafodd y ffrwydrad ei ddal ar gamera CCTV Bragdy Twt Lol, sydd ar yr un stad ddiwydiannol.