System byrddau iechyd yn 'hollol aneffeithiol'

Mae adroddiad beirniadol wedi tynnu sylw at "bryderon am ddiogelwch cleifion" yn uned mamolaeth Ysbyty Singleton, Abertawe.

Mae'r adroddiad gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) wedi galw am sawl gwelliant, gan nodi nad yw lefelau staffio wedi bod yn ddiogel yno ers 2019.

Yn ôl Bwrdd Iechyd Bae Abertawe maen nhw eisoes yn canolbwyntio ar wneud gwelliannau ac wedi recriwtio staff ychwanegol.

Yn ymateb i'r stori ar Dros Frecwast dywedodd Dr Dewi Evans, oedd yn bennaeth meddygaeth plant a'r uned famolaeth yn Ysbyty Singleton hyd at 2008, ei fod yn teimlo bod "rhywbeth o'i le gyda'r system drwy'r byrddau iechyd i gyd a dweud y gwir".

"Dwi'n teimlo dyw'r bobl hyn ddim yn bobl wael na dim byd felly, ond dwi'n credu y dylen nhw i gyd ymddiswyddo a dweud y gwir - maen nhw'n hollol aneffeithiol.

"O ran y strwythur sy'n bodoli yn y gwasanaeth iechyd ar hyn o bryd - gyda'r byrddau iechyd hyn - maen nhw'n aneffeithiol. S'dim unrhyw bwrpas iddyn nhw - maen nhw'n wastraff arian."

Yn ymateb i sylwadau Dr Evans dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod y Gweinidog Iechyd "wedi gorchymyn adolygiad o strwythurau llywodraethu presennol o fewn NHS Cymru i sicrhau eu bod yn addas i'r diben ac argymell unrhyw newidiadau sydd eu hangen".