Emyr Huws yn ymddeol o bêl-droed yn 30 oed
Mae cyn-chwaraewr canol cae Cymru, Emyr Huws, wedi cyhoeddi ei fod yn ymddeol o bêl-droed proffesiynol yn 30 oed.
Yn enedigol o Lanelli ac yn gyn-ddisgybl Ysgol y Strade, fe wnaeth Huws wedi dioddef ag anafiadau drwy gydol ei yrfa.
Enillodd 11 cap dros Gymru rhwng 2014 a 2017.
Ymunodd â Manchester City o Abertawe yn ei arddegau ac aeth ymlaen i chwarae i Ipswich, Wigan Athletic a Chaerdydd.
Roedd wedi bod heb glwb ers diwedd tymor 2022/23 wedi i'w gytundeb gyda Colchester United ddod i ben.
Mewn neges ar ei gyfrif Instagram fore Llun, dolen allanol fe ysgrifennodd: "Rwyf wedi sylweddoli trwy lawer o wersi anodd nad yw'r llwybr hwn bellach wedi'i fwriadu i mi.
"Mae fy niolch o'r mwyaf i bawb fu'n rhan o fy nhaith a diolch i chi i gyd am helpu fi i ddod y dyn yr ydwyf heddiw."