Merlod yn rhoi cymorth i ddisgyblion Ysgol Y Fali
Ers bron i ddeufis mae ysgol ar Ynys Môn yn croesawu ffrindiau newydd sydd eisoes yn cael effaith bositif ar bresenoldeb ac yn helpu rhai disgyblion gyda gorbryder.
Merlod yw Nansi a Daisy, sydd bellach yn ymweld ag Ysgol Gymuned y Fali ddwywaith yr wythnos.
Yn ôl staff mae presenoldeb yr anifeiliaid, a'r cyfle i ofalu amdanynt yn helpu llawer o ddisgyblion i ddod i'r ysgol yn y bore ac yn "rhoi synnwyr o bwrpas" iddyn nhw.