'Rhaid i ni gael timau proffesiynol yng Nghymru'

Mae rygbi menywod yng Nghymru yn or-ddibynnol ar glybiau yn Lloegr i ddatblygu chwaraewyr Cymreig, ac mae 'na bur angen sefydlu timau proffesiynol yng Nghymru, yn ôl clo y tîm cenedlaethol Natalia John.

Gadawyd John heb glwb yn yr haf ar ôl i Gaerwrangon fynd i'r wal, ac felly y bydd hi'n cynrychioli Brython Thunder - tîm newydd a sefydlwyd gan Undeb Rygbi Cymru - yn yr Her Geltaidd ym mis Ionawr.

Mae'r gystadleuaeth yn cynnwys chwe thîm datblygiadol - dau o bob un o undebau Cymru, Yr Alban ac Iwerddon - gyda Brython Thunder yn mynd benben â'r clwb Cymreig arall, Gwalia Lightning, yn Rodney Parade, Casnewydd ar 1 Ionawr.