'Mae rhai o weithwyr Tata eisoes yn gadael am swydd arall'

Mae'r ansicrwydd dros ddyfodol gwaith dur Tata ym Mhort Talbot wedi yn gysgod dros ddathliadau'r Nadolig eleni i weithwyr, eu teuluoedd ac amryw o fusnesau lleol sy'n dibynnu ar y safle neu'n rhan o'r gadwyn gyflenwi.

Roedd disgwyl cyhoeddiad gan y cwmni ym mis Tachwedd eu bod am dorri 3,000 o swyddi yno, fel rhan o fwriad i gynhyrchu dur mewn ffordd lai niweidiol i'r amgylchedd.

Yn niffyg datganiad swyddogol, mae 2024 yn argoeli i fod "yn flwyddyn o ansicrwydd," medd un o'r gweithwyr, Alun Hughes o Langennech yn Sir Gâr.

"Ni'n siarad am hwn yn ddyddiol - be' sy'n mynd i ddigwydd, pryd mae e'n mynd i ddigwydd," meddai Mr Hughes, sy'n gweithio yn y safle fel weldiwr ers 15 mlynedd.

Petai'r gwaethaf yn dod i'r gwaethaf, mae'n rhagweld gorfod cystadlu gyda chyn-gydweithwyr lawer iau am waith, ond fel yr eglurodd mae rhai eisoes wedi penderfynu peidio aros i weld beth sydd am ddigwydd cyn chwilio am swydd newydd.