Pryder Dysgwr y Flwyddyn ynghylch dyfodol y Gymraeg

Roedd 2023 yn flwyddyn i'w chofio i Alison Roberts, yr Albanes sydd wedi ymgartrefu yn Môn.

Hi oedd enillydd gwobr Dysgwr y Flwyddyn yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym mis Awst.

Fe wnaeth hi hefyd priodi â'i chymar, Siôn yn yr hydref, ac mae'r ddau'n magu eu saith o blant yn Gymraeg ar eu fferm ger Llannerch-y-medd.

Fe ddysgodd Alison y Gymraeg yn y gymuned, heb unrhyw wers swyddogol, ond mae hi'n siomedig bod yna ddiffyg parch gan rai at yr iaith.

Mae hi'n cofio sut y crebachodd Gaeleg yr Alban yn ei phentref genedigol dros y blynyddoedd - roedd ei hen daid ymhlith yr olaf i siarad yr iaith.

Bu'n trafod ei phryderon ynghylch dyfodol y Gymraeg fel golygydd gwadd rhaglen Dros Frecwast ddydd Iau