Prif Weinidog: Neges flwyddyn newydd yn galw am heddwch

Yn ei neges flwyddyn newydd mae'r Prif Weinidog wedi dweud bod "angen dod a'r rhyfela erchyll a'r trais ofnadwy i ben".

Yn cyfeirio yn benodol at y hyn a welwyd yn Wcráin ac yn y Dwyrain Canol, dywedodd Mark Drakeford: "Ar droad y flwyddyn, ein gobaith yw gweld diwedd ar y rhyfela erchyll a'r trais ofnadwy a welsom eleni a'r llynedd, yn enwedig yn Wcráin.

"A rhaid i'r ymladd stopio yn y Dwyrain Canol. Rhaid i ni weithio'n galetach i ffeindio llwybr at heddwch parhaol sy'n rhoi tegwch i bobl Palesteina ac Israel."

Yn ei neges olaf cyn ildio'r awenau ddiwedd fis Mawrth, ychwanegodd fod dydd Calan "bob amser yn cynnig dechrau newydd" ac fod "pawb yn gobeithio am heddwch ac amseroedd gwell yn 2024".