Yws Gwynedd: Y galar o golli dau frawd a thad

Mewn rhifyn estynedig o Beti a'i Phobol ar BBC Radio Cymru dros y Nadolig, fe siaradodd Ywain Gwynedd am ei yrfa gerddorol, ei ddyddiau'n chwarae pêl-droed, a'i fywyd personol.

Yn wreiddiol o Lan Ffestiniog, mae'r canwr bellach yn byw ym Methel gyda'i wraig Gwennan a tri o blant.

Siaradodd yn agored gyda Beti George am y profiad o golli ei dad a'i ddau frawd.