'Mor hawdd dileu a diystyru profiadau pobl deurywiol'
Y duedd neu'r bwriad o ddileu profiad person deurywiol yw bi erasure. Yw hyn yn deillio o'n hawydd ni fel pobl i roi labeli ar bawb a phopeth, yn enwedig o ran hunaniaeth? Dyma un o'r pethau fydd yn cael sylw ym mhennod 11 o'r podlediad BBC Sounds, Esgusodwch Fi.
Gwestai'r bennod yw Miriam Isaac sy'n ddeurywiol. Mae hi, ynghyd â'r cyflwynwyr Meilir Rhys Williams a Iestyn Wyn yn trafod pa mor hawdd yw diystyru deurywioldeb, hyd yn oed o fewn y gymuned LHDTC+ ei hun.
Mae Esgusodwch Fi? ar gael ar BBC Sounds nawr. Bydd y bennod gyda Miriam Isaac ar gael ar BBC Sounds ddydd Llun, 8 Ionawr.