Cynllun peilot i ddysgu mwy o sgiliau i ffoaduriaid
Mae cynllun peilot ar waith er mwyn dysgu sgiliau fel ieithoedd i fwy o ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru.
Nod y Cwricwlwm Dinasyddion, sy'n cael ei arwain gan athrawon gwirfoddol, yw ceisio helpu pobl i setlo yma.
Dywedodd Llywodraeth Cymru fod "ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn wynebu heriau a rhwystrau unigryw" ar ôl cyrraedd gwlad newydd.
"Efallai y byddant yn ei chael hi'n anodd cyflawni tasgau sylfaenol fel gweld meddyg oherwydd rhwystrau iaith, ac mae gan rai anghenion llythrennedd oherwydd bod eu haddysg wedi bod yn ysbeidiol.
"I lawer o ffoaduriaid a cheiswyr lloches, y dosbarthiadau hyn yw eu prif weithgaredd gymdeithasol, sy'n rhoi ymdeimlad o strwythur i'w bywydau ac yn cynnig cefnogaeth ieithyddol a seicolegol."
Kirran Lochhead-Strand, sy'n dysgu Cymraeg a Saesneg i ffoaduriaid a cheiswyr lloches, fu'n trafod y prosiect ar Dros Frecwast fore Gwener.