'S'dim rhaid tacluso'r sied - neith y llygoden wneud e!'

Er ei fod yn ffotograffydd bywyd gwyllt brwd, nid oedd Rodney Holbrook erioed wedi disgwyl dal golygfa o'r fath yn ei sied ei hun.

Ar ôl crafu pen o sylwi bod pethau'n cael eu symud yn y sied dros gyfnod o ddau fis, fe osododd Rodney Holbrook, 75, gamera i weld a oedd modd datrys y dirgelwch.

"I ddechrau wnes i sylwi bod bwyd ro'n i'n ei roi i'r adar wedi eu rhoi mewn hen 'sgidiau ro'n i'n eu cadw yn y sied," dywedodd Mr Holbrook.

"Do'n i methu credu'r peth pan welais i taw'r llygoden oedd yn tacluso. Symudodd pob math o bethau i'r bocs - darnau plastig, nytiau a boltiau.

"Dydw i ddim yn trafferthu tacluso nawr, achos rwy'n gwybod neith e wneud e.

"Roedd yn wirioneddol ryfeddol i weld y lluniau."