Lluniau: Yr awyr dywyll uwch Cymru
- Cyhoeddwyd
Y rhan fwyaf o nosweithiau, fe ddewch chi o hyd i'r ffotograffydd Dafydd Wyn Morgan ar fynydd gyda'i gamera yn ei law, yn aros am y llun perffaith.
Yn byw yn Nhregaron, mae'n teithio ledled Cymru yn tynnu lluniau trawiadol o'r awyr dywyll, ei sêr a'i goleuadau lliwgar, ac yn dangos i ni'r golygfeydd anhygoel all ddigwydd uwch ein pennau, wedi iddi nosi.
"Bu farw fy mam yng nghyfraith, Alison, yn 2011 ac roedd yn hoff iawn o dynnu lluniau. Roedd ganddi gamera da ac mi fues yn lwcus i'w etifeddu ar ôl ei marwolaeth.
"Cam wrth gam dechreuais ddefnyddio'r camera wrth gerdded mynyddoedd Cymru, nes un prynhawn yn hwyr yng Nghwm Elan, wrth iddi fachlud, dywedodd rhywun wrthaf fod y camera yn ddigon da i dynnu lluniau gyda'r nos.
"A dyna ni; dyma fi'n dechrau mynd allan wedi iddi nosi a darganfod rhyfeddodau'r camera yn y tywyllwch.
"Aros yn lleol yn Nhregaron i ddechrau ond wedyn teithio ymhellach i Fynydd Llanllwni, Llyn Brianne a chopa Pumlumon Fawr. Bob tro gyda'r camera, bob tro yn y tywyllwch.
"Mae angen chwarae gyda gosodiadau'r camera i dynnu lluniau gyda'r nos. Gadael digon o olau i fewn i'r camera a chadw'r shutter ar agor mor hir ag yw'r lens yn caniatáu, ac mae ffocysu yn bwysig hefyd.
"Erbyn hyn mae gen i gamera newydd, tripod, remote control a 'bits and bobs' eraill ac rwyf dal i deithio Cymru o Ynys Enlli i Sir Benfro yn dysgu sut i dynnu lluniau o'r tirwedd a'r wybren dywyll.
"Ardal fynyddig Yr Elenydd yw un o'm hoff lefydd ac rwyf wedi treulio sawl noson allan mewn cymunedau sy'n rhan o Lwybr Seryddol Mynyddoedd Cambrian. Mae'r llwybr yn uno naw cymuned sydd â'r wybren dywyllaf yn Ewrop oherwydd diffyg llygredd golau.
"Dwi'n mynd allan bob tro mae'n glir ac yn ystod cyfnod y lleuad newydd. Dwi'n cynllunio'n fanwl ac yn ymweld â'r llefydd yn ystod y dydd yn gyntaf i sicrhau diogelwch mewn mannau diarffordd ac i hysbysu cymdogion os ydw i'n agos at gymuned pendant.
"Dwi'n hoffi tynnu lluniau cawodydd meteor, y Llwybr Llaethog (Milky Way) a Llewyrch yr Arth (Aurora Borealis). Un diddordeb mawr sydd gen i yw ymweld â lletyau gwahanol Cymru a chreu casgliadau o luniau i'r perchennog a fideos amser o'r sêr yn 'teithio' uwchben y llety.
"Yn 2023 gwnes i sefydlu gwasanaeth newydd o'r enw Serydda sy'n uno tynnu lluniau, serydda sylfaenol a gweithdai, a chefnogi'r diwydiant astro-twristiaeth. Dwi'n cael llawer o bleser nawr yn rhannu'n sglilau ar gyrsiau yn Abaty Ystrad Fflur ar y cyd gydag Ymddiriedolaeth Ystrad Fflur, ac hefyd wedi creu perthynas dda gyda'r Urdd yn ei gwersyll newydd ym Mhentre Ifan yn Sir Benfro.
"Mae addysgu ein pobl ifanc am bwysigrwydd tywyllwch y nos mor bwysig. Byddwn i'n annog pobl i baratoi'n dda a mynd allan wedi iddi dywyllu gyda ffrindiau neu deulu a mwynhau syfrdandod yr wybren dywyll yma yng Nghymru.
"Yn raddol mae'r diddordeb wedi bod yn fodd i fyw ac rwyf wedi elwa'n fawr o'r tywyllwch dros y blynyddoedd.
"Rwy'n treulio nosweithiau cyfan allan yn rhewi'n gorn pan fydd y cymylau'n clirio a'r tymheredd yn cwympo. Mae fflasg o goffi twym wastad yn helpu. Wedi'r cyfan, mae e werth e, ond yw e?"
Hefyd o ddiddordeb: