Huw Stephens: Rhaglen newydd 6 Music 'yn anhygoel'
Huw Stephens yw cyflwynydd newydd rhaglen 6 Music fydd yn cael ei darlledu'n wythnosol o stiwdios y BBC yng Nghaerdydd.
Mae'r rhaglen yn rhoi llwyfan i gerddoriaeth o Gymru - yn y ddwy iaith.
"Ni'n mynd i fod yn chwarae lot o gerddoriaeth. Ni'n chwarae clasuron, ni'n chwarae lot o gerddoriaeth newydd o bob genre a cyn lleied o siarad ag sy'n bosib."
"Mae'r rhan fwyaf o raglenni 6 Music yn dod o Salford a Llundain ond hon fydd y rhaglen gyntaf, parhaol i ddod o Gymru ac i neud e o Ganolfan BBC Cymru Wales yng Nghaerdydd yn fy ninas enedigol lle fi'n byw, mae'n anhygoel."
"Fi methu credu fe i fod yn onest. Nes i grio fel babi pan wnaethon nhw gynnig y rhaglen i fi."
"Mae 'na gymaint o gerddoriaeth gwych yn dod allan o Gymru yn y ddwy iaith felly bydd hynna yn naturiol yn rhan o'n rhaglen i yn symud 'mlaen hefyd."
Bydd rhaglen Huw Stephens ar 6 Music o ddydd Mawrth i ddydd Gwener, o 16:00-19:00.