Adroddiad CFfI yn 'arf pwysig' i ddenu mwy o nawdd
Mae digwyddiad yn cael ei gynnal yn y Senedd ym Mae Caerdydd ddydd Mercher sy'n rhoi sylw i waith Clwb Ffermwyr Ifanc Cymru, a chyfraniad y clybiau i'w cymunedau.
Mewn dwy flynedd fe fydd y mudiad, sydd â 138 o glybiau a thros 6,000 o aelodau, yn dathlu 90 o flynyddoedd ers ei sefydlu.
Fe fydd yr achlysur yn y Senedd yn clywed am gasgliadau adroddiad a gomisiynodd y mudiad y llynedd.
Mae hwnnw'n rhestru dros 200 o ddigwyddiadau, cystadlaethau a chyfleoedd i wirfoddoli sydd ar gynnig ar draws Cymru - ynghyd â'r ffaith nad oes rhaid bod yn y byd amaeth i ymuno.
Mae'n gyfle, medd cyn-aelodau, i amlygu gwerth y mudiad, yn enwedig i bobl nad sy'n byw yng nghefn gwlad Cymru - ac i'r rhan y mae ei holl weithgareddau'n cyfrannu at barhad y Gymraeg.
Mewn sgwrs ar raglen Dros Frecwast, fe fynegodd eu prif weithredwr, Mared Rand Jones, obaith y bydd nodi holl orchestion CFfI mewn du a gwyn yn eu helpu i ddenu mwy o nawdd a chefnogaeth yn y dyfodol.