'Haws' i blant ddysgu eu geiriau i gystadlu yn yr Urdd

Mae adnodd newydd yn helpu ysgolion hyfforddi plant er mwyn cymryd rhan yn Eisteddfod yr Urdd.

Mae Gwasanaeth Cerdd Cenedlaethol Cymru yn gosod traciau ymarfer ar-lein ar gyfer 10 o'r darnau gosod yng nghystadlaethau canu Eisteddfod 2024 i ddisgyblion Blwyddyn 6 ac iau.

Y nod, yn ôl yr Urdd, yw sicrhau fod pob plentyn yn cael cyfle i gymryd rhan yn yr Eisteddfod, sy'n cael ei chynnal eleni yn Sir Drefaldwyn.

Dyma argraffiadau rhai o ddisgyblion Ysgol Gymraeg Melin Gruffydd, yn Yr Eglwys Newydd, Caerdydd.