Cymraes i herio chwaraewyr tenis ifanc gorau'r byd

Wrth i brif bencampwriaeth tenis cyntaf 2024 ddechrau yn Melbourne, Awstralia'r wythnos hon mae BBC Cymru Fyw wedi bod yn siarad gydag un sy'n gobeithio cystadlu ar y lefel uchaf yn y dyfodol.

Mae Awen Gwilym-Davies o Gaerdydd yn 13 oed ac eisoes wedi serennu mewn pencampwriaethau yn Ewrop ac yn yr Unol Daleithiau.

Bydd Awen yn cystadlu ym mhencampwriaeth Les Petits As yn Tarbes yn ne orllewin Ffrainc yr wythnos nesaf - cystadleuaeth sy'n cael ei gweld fel pencampwriaeth y byd i chwaraewyr ifanc.

Mae chwaraewyr fel Rafael Nadal, Martina Hingis, Coco Gauff ac Andy Murray wedi chwarae yn y bencampwriaeth yn y gorffennol.

Carl Roberts aeth i'w holi.