Y Coridor Ansicrwydd: Anodd anwybyddu Dan James

Mae gêm ail-gyfle Cymru yn erbyn Ffindir yn rowndiau rhagbrofol Ewro 2024 yn agosáu, ond tydi sawl un o'r garfan ddim yn chwarae'n rheolaidd i'w clybiau.

Un sydd wedi serennu yn ddiweddar ydi Dan James, sydd wedi sgorio 10 gôl i Leeds United y tymor yma.

Mae James wedi colli ei le yn nhîm Cymru yn ddiweddar, felly fydd y rheolwr Rob Page yn ailystyried?

Yn ôl cyn-chwaraewr Cymru, Owain Tudur Jones, mae'n anodd anwybyddu James.

Mae pennod ddiweddaraf Y Coridor Ansicrwydd, dolen allanol ar BBC Sounds.