'Angen i bobl wybod' am effaith cyflyrau thyroid
Mae gormod o bobl yn "anwybyddu" symptomau yn ymwneud â'r thyroid, yn ôl un arbenigwr yn y maes.
Mae cyflyrau'n ymwneud â'r thyroid, sef chwarren (gland) yn y gwddw, yn aml yn cael eu hystyried fel rhai "anweledig", yn ôl Sefydliad Prydeinig y Thyroid.
Er bod y cyflyrau yn effeithio hyd at 5% o boblogaeth y DU, mae'r elusen yn galw am godi ymwybyddiaeth, ynghyd â chynyddu'r gwaith ymchwil o fewn y maes.
Dywedodd Alwen Pennant Watkin ei bod wedi cymryd "blynyddoedd er mwyn cael rheolaeth" o'r broblem thyroid.
Cafodd ddiagnosis o glefyd Hashimoto - sef cyflwr sy'n effeithio ar y thyroid - 15 mlynedd yn ôl, ond roedd ei siwrne i gael diagnosis yn un hir.
Dywedodd: "Mi gymrodd rai blynyddoedd 'swn i'n d'eud er mwyn cael rheolaeth arno fo... weithiau oedd gen i thyroid yn underactive a dro arall yn overactive ac felly i gael y feddyginiaeth berthnasol ar ei gyfar o fe gymrodd o gryn amser."