Gadael yr ysbyty wedi dros flwyddyn o driniaeth

Dyma'r foment cafodd bachgen 16 oed adael yr ysbyty ar ôl treulio dros flwyddyn yno.

Bu'n rhaid i James Hughes o Gaerdydd dreulio 13 mis yn yr ysbyty wrth iddo dderbyn triniaeth ar gyfer meningitis.

Roedd wrth ei fodd wrth i weithwyr Ysbyty Arch Noa gynnal seremoni yn ffarwelio ag ef.