Galw am newid y drefn o ddarparu cadeiriau olwyn
Gyda chymorth ei ffrindiau a'i theulu, llwyddodd Tina Evans o Borth Tywyn, Sir Gaerfyrddin, i godi £3,000 o'r £5,000 oedd angen arni i brynu cadair olwyn bwrpasol.
Mae hi a defnyddwyr eraill cadeiriau olwyn yn dweud bod cyfarpar anaddas yn effeithio'n sylweddol ar safon bywyd a iechyd meddwl unigolion, a bod angen mwy o ddewis.
Mae ganddi gyflwr niwrolegol o'r enw Friedreich's ataxia sy'n effeithio ar ei chydbwysedd. Fe gafodd ddiagnosis yn 16 oed ac fe ddechreuodd ddefnyddio cadair olwyn yn 21.
Mae hi wedi syrffio, arfordiro a sgïo a llynedd fe aeth ar feic tandem o Gaerdydd i Baris er mwyn codi arian.
Yn Lloegr, mae pobl yn gallu cael cyllideb iechyd personol lle mae modd iddyn nhw ychwanegu mwy o'u harian er mwyn prynu cadair naill ai gan y gwasanaeth iechyd neu'n breifat.
Dywedodd Tina byddai cynllun tebyg yng Nghymru yn "ddefnyddiol iawn" i unigolion.
Yn ôl Llywodraeth Cymru mae offer a chadeiriau olwyn yn cael eu dewis ar sail angen clinigol, gwerth am arian ac argaeledd.