Rowndiau terfynol Ewrop yn 'bluen yn het' Caerdydd

Mae arweinydd Cyngor Caerdydd Huw Thomas yn dweud ei bod hi'n "bluen yn het" y ddinas fod Stadiwm Principality wedi ei dewis i gynnal rowndiau terfynol Cwpan Pencampwyr Ewrop a Chwpan Her Ewrop yn 2025.

Roedd 23 stadiwm arall wedi gwneud cais i gynnal y rowndiau terfynol, ond Stadiwm Princiaplity a ddaeth i'r brig.

Yn ôl y Cynghorydd Thomas mae'r ffaith fod Caerdydd wedi cynnal digwyddiadau fel rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr yn y gorffennol yn rhoi "hyder i'r trefnwyr" y bydd y brifddinas yn cynnal digwyddiad rhagorol unwaith eto.