Radio Cymru: 'Ffigyrau'n siom, ond gwrando digidol yn codi'

Fe wnaeth nifer gwrandawyr wythnosol BBC Radio Cymru ostwng yn is na 100,000 am y tro cyntaf yn y chwe mis hyd at ddiwedd Rhagfyr.

95,000 oedd cyrhaeddiad wythnosol mwyaf diweddar Radio Cymru, yn ôl corff casglu ffigyrau radio RAJAR.

Roedd hynny 7,000 o wrandawyr yn is na'r ffigyrau a gyhoeddwyd dri mis yn flaenorol, a 40,000 yn is na'r un cyfnod yn 2022.

Mae'r data yn gyfuniad o ffigyrau gwrando byw Radio Cymru a Radio Cymru 2.

Ond mae nifer yr oriau roedd cynulleidfa Radio Cymru yn gwrando ar yr orsaf ar gyfartaledd wedi cynyddu i dros 12 awr y gwrandäwr.

Mae hynny dros ddwy awr yn fwy na'r chwe mis hyd at Fedi 2023, ond awr yn llai na'r ffigwr flwyddyn ynghynt.

Wrth ymateb i'r ffigyrau, cytunodd Pennaeth Gwasanaethau Cymraeg BBC Cymru, Dafydd Meredydd fod y ffigyrau yn siomedig, ond dywedodd hefyd fod pobl yn gwrando "mewn ffyrdd gwahanol".

"Fe gafon ni 2.1m o geisiadau i wrando'n ddigidol yn 2023, mae hynny'n gynnydd o 10% ers 2022.

"Mae nifer y cyfrifon sy'n dod i BBC Sounds wedi cynyddu o 28%, ac wythnos diwethaf, yn nhermau gwrando digidol, oedd yr ail wythnos orau yn hanes Radio Cymru."